Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (115)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cynnig am Ddadl Frys Simon Thomas:
Y dylai’r Cynulliad ystyried ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adroddiadau Estyn ar Ferthyr Tudful a Sir Fynwy (45 munud) Dogfennau
Ategol |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Datblygu cynlluniau ynni cymunedol yng Nghymru (45 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru (30 munud) |
6. Dadl: Cymorth y Llywodraeth i fusnesau newydd yng Nghymru (60 munud) NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ystod eang o gyngor
a mentrau sy’n hybu ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a
busnesau newydd yng Nghymru. Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo: ‘Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.’ Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu ‘Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod’ a rhoi ‘Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu’ yn ei le. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i ennyn ysbryd entrepreneuraidd o oedran ifanc, ac yn credu y byddai sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol uwchradd yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc sgiliau busnes pwysig. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull lleol o gynorthwyo busnesau newydd. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r effaith gadarnhaol y mae rhyddhad ardrethi busnes yn ei chael ar hybu cychwyn busnesau newydd yng Nghymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi pellach ar gyfer busnesau bach. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013. Gellir gweld ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/buddsoddi_cymru_final.pdf Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill. Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
|
Cyfnod Pleidleisio
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Chwefror 2013